Teitl cyflogwr
- Cyfeiriad
-
Matrix House
Floor 2
Northern Boulevard
Swansea Enterprise Park
Swansea
SA6 8BX - Rhif ff么n
- 02921 500200
- Gwefan
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn flaenorol) ei greu ar 1 Ebrill 2019 ar 么l i鈥檙 cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnwys ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe sydd 芒 phoblogaeth o tua 390,000 ac mae gennym gyllideb o tua 拢1bn. Mae鈥檙 Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 12,500 o staff.
Mae ganddo dri phrif ysbyty sy鈥檔 darparu ystod o wasanaethau: Ysbyty Treforys ac ysbyty Singleton yn Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.
Mae hefyd gennym ysbyty cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy鈥檔 darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i鈥檙 prif ysbytai.
Mae contractwyr gofal sylfaenol annibynnol yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ofalu am ein poblogaeth ac mae鈥檙 Bwrdd Iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan feddygon teulu, fferyllwyr a deintyddion ar draws yr ardal
Mae gennym 49 o bractisiau meddygon teulu yn ardal y Bwrdd Iechyd, 72 practis deintyddol gan gynnwys orthodeintyddion, 31 practis optometreg a 92 fferyllfa gymunedol.
Darperir gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu mewn ysbytai a lleoliadau yn y gymuned.
Nid yw Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys ond yn gwasanaethu De a Chanolbarth Cymru, mae hefyd yn gwasanaethu De-orllewin Lloegr. Mae Ysbyty Treforys hefyd yn darparu un o鈥檙 ddau o wasanaethau llawfeddygaeth gardiaidd sydd ar gael yng Nghymru.
Mae gwasanaethau arbenigol eraill a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd yn cynnwys gwasanaethau gwefus a thaflod hollt, arennol, ffrwythlondeb a bariatrig (gordewdra).
Darperir Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fforensig i鈥檙 gymuned ehangach ar draws De Cymru gyfan.
Mae鈥檙 Bwrdd Iechyd yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) sy鈥檔 bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Mae ARCH yn brosiect cydweithredol unigryw a anelir at wella llesiant a chyfoeth De-orllewin Cymru.
I ddysgu mwy amdano, ewch i: https://bipba.gig.cymru/
Ein gwerthoedd: https://bipba.gig.cymru/swyddi/pam-gweithio-i-ni/
Our values: https://sbuhb.nhs.wales/jobs/why-work-for-us/
听
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Nyrsio a bydwreigiaeth, Meddygol a deintyddol, Proffesiynau perthynol i iechyd, Gwasanaethau gwyddor iechyd, Gwasanaethau cymorth, Gwasanaethau gweinyddol, Prentisiaethau neu bob sector