ýAPP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Glanhau
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 8 awr yr wythnos (Dydd Sadwrn a Dydd Sul 5.30pm - 9.30pm)
Cyfeirnod y swydd
050-EA298-1024-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£23,970 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Domestig

Gradd 2

Trosolwg o'r swydd

Yn gyfrifol am wneud dyletswyddau glanhau a dyletswyddau perthnasol eraill ar wardiau, adrannau, ardaloedd cyhoeddus a staff a llety preswyl. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Cynorthwyydd Domestig sy'n gweithio 8 awr, 2 ddiwrnod yr wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd.

Oriau gwaith 5.30pm - 9.30pm Dydd Sadwrn a Dydd Sul o fewn wardiau ac adrannau.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio fel rhan o tîm
  • Profiad blaenorol o wasanaethau glanhau

Dawn ac Galleuoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith ei hun
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Top 100Stonewall Top 100 Employers

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Domestic Supervisors
Teitl y swydd
Domestic Supervisor
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 845091