ýAPP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapi Galwedigaethol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AHP279-1224
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ardal Ganolog
Tref
Y Rhyl
Cyflog
y flwyddyn pro rata
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Therapydd galwedigaethol cylchdroadol

Gradd 5

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Therapydd galwedigaethol Gradd 5 weithio mewn tîm mawr, cefnogol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Mae gennym grŵp sefydledig i gefnogi Therapyddion Galwedigaethol Gradd 5 a hwylusir gan Uwch Therapydd Galwedigaethol lle gallwch dderbyn cefnogaeth cyfoedion.

Mae'r swydd yma yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau newydd ar draws amrywiaeth o leoliadau. Fel gwasanaeth, rydym wedi ymrwymo i ddarparu goruchwyliaeth ffurfiol rheolaidd, cyfleoedd dysgu a gwerthusiadau blynyddol.

Mae cylchdroadau yn gallu cynnwys cleifion meddygol, strôc, orthopedeg, tîm adnoddau cymunedol,tîm pediatreg, atal cwympiadau, adsefydlu ysgyfeiniol, ysbytai cymunedol, gwasanaeth Iechyd Meddwl Aciwt pobl hŷn ac oedolion a thimau iechyd meddwl cymunedol. Rydym yn adolygu'r cylchdroadau sydd ar gael yn rheolaidd ac yn ceisio ychwanegu cyfleoedd newydd fel y bo modd. Gall ymgeiswyr fynegi dewis ar gyfer iechyd meddwl neu iechyd corfforol (neu gylchdro cymysg) yn y cyfweliad.

Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae croeso i raddedigion Haf/Hydref 2025 wneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd daliwr y swydd yn gweithio fel ymarferwr annibynnol gan ddilyn codau ymddygiad a moeseg proffesiynol gyda llwyth gwaith amrywiol a all gynnwys cleifion gydag anghenion cymhleth dan oruchwyliaeth ychwanegol.

Gall gweithgareddau clinigol ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys ysbytai, clinigau a’r gymuned a chartrefi’r cleifion eu hunain.

Bydd daliwr y swydd yn darparu goruchwyliaeth i weithwyr cefnogi a gall roi cyfarwyddyd a chefnogaeth i weithwyr cefnogi o ddisgyblaeth arall. Hefyd, bydd daliwr y swydd yn cefnogi dysgu a datblygiad eraill gan gynnwys staff newydd a myfyrwyr.

Bydd daliwr y swydd yn cyfrannu at ddatblygiadau gwasanaeth yn ei adran, a all gynnwys mynychu cyfarfodydd a chymryd rhan mewn archwilio, gwerthuso’r gwasanaeth ac ymchwilio ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Top 100Stonewall Top 100 Employers

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Sharp
Teitl y swydd
Clinical lead Occupational Therapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07966514236
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ar gyfer manylion pellach a gwybodaeth, cysylltwch â:

Jamy Ashton
Pennaeth Therapi Galwedigaethol - Canol
03000 855 967
[email protected]