ąű¶ł´«Ă˝APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TG
Gradd
Gradd 8c
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
025-AC030-0225-CVL
Cyflogwr
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Glan Yr Afon
Tref
Caerdydd
Cyflog
ÂŁ75,405 - ÂŁ86,885 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo

Pennaeth Monitro Menter

Gradd 8c

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.


Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.


Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. ĚýGwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ěý

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n chwilio am swydd arweinyddiaeth dechnegol mewn sefydliad mawr sy’n darparu gwasanaethau TG gofal iechyd critigol i dros 100,000 o unigolion? Os felly, rydym ni eisiau clywed gennych.

Dyma gyfle unigryw i ymuno ag uwch dîm arwain mewn sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n darparu gwasanaethau digidol hanfodol i ddarparwyr gofal iechyd rheng flaen ar draws GIG Cymru. Rydym yn chwilio am ymgeisydd rhagorol, profiadol i arwain ein tîm a’n platfformau Monitro Menter. Mae hwn yn amser gwych i ymuno ag IGDC wrth i ni ymgymryd â dwy raglen drawsnewid dechnegol sylweddol – rhaglen bontio cwmwl a symud tuag at ddull cyflawni yn seiliedig ar gynnyrch/platfform.

Ar hyn o bryd mae IGDC yn defnyddio nifer o gynhyrchion monitro seilwaith a chymwysiadau traddodiadol, a’n nod yw datblygu ein gwasanaeth monitro i fod yn swyddogaeth arsylwi menter gyfan, gan ddarparu platfformau sy’n galluogi ein timau i fonitro eu cynhyrchion eu hunain. Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal cywirdeb, perfformiad a diogelwch ein systemau digidol.

Bydd cyflawni’r newid hwn yn gofyn am sgiliau technegol, pobl ac arweinyddiaeth sefydliadol cryf. Mae’r rôl hon yn gofyn am unigolyn rhagweithiol a brwdfrydig, sy’n gallu gweithio’n annibynnol mewn amgylchedd cymhleth, ac sy’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Pennaeth Monitro Menter byddwch yn:

• Goruchwylio’r gwaith o ddylunio, gweithredu a chynnal datrysiadau monitro ar draws cynhyrchion, gwasanaethau a seilwaith y sefydliad, gan gynnwys rhwydweithiau, gweinyddwyr, cymwysiadau a gwasanaethau cwmwl.

• Datblygu a gweithredu strategaeth monitro menter gynhwysfawr sy’n cyd-fynd â gweledigaeth a chenadaethau’r sefydliad.

• Meddu ar feddylfryd strategol i sicrhau bod gwasanaethau digidol eang a seilwaith sylfaenol yn cael eu monitro’n ddi-dor, er mwyn sicrhau’r perfformiad, argaeledd a dibynadwyedd gorau posibl.

• Datblygu’r achos busnes a gweithio gyda thimau cynnyrch a phlatfform i ddatblygu a gweithredu Canolfan Gweithrediadau Menter a fydd yn defnyddio’r offer i fonitro systemau, nodi problemau a chymryd camau rhagweithiol i wella perfformiad ac argaeledd.

• Sicrhau bod yr holl offer yn addas at y diben, yn bodloni’r gofynion busnes, ac wedi’u hintegreiddio’n effeithiol i ddarparu mewnwelediad amser real i brofiad y defnyddiwr terfynol.

• Darparu arweinyddiaeth dechnegol i optimeiddio perfformiad seilwaith TG.

• Bod yn berchennog ar y berthynas weithredol â chyflenwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau a chynhyrchion yn cyd-fynd ag arferion gorau’r diwydiant a gofynion rheoleiddiol a chytundebol.

• Gweithio ar systemau a datrysiadau proffil uchel a ddarperir ar raddfa genedlaethol, yn unol ag ymrwymiad y sefydliad i arferion cyflawni ystwyth a dull seiliedig ar gynnyrch.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.

Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.

Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gwneud y canlynol:

• Rheoli llinell ar uwch dimau a thimau arbenigol sy’n wasgaredig yn ddaearyddol o fewn y Gyfarwyddiaeth, a dirprwyo ar gyfer y Prif Swyddog Cwmwl pan fo angen.

• Bod yn gyfrifol am gynllunio’r gweithlu yn y tymor hir, gan gynnwys olyniaeth a datblygiad a hyfforddiant staff, i gefnogi amcanion hirdymor technegol ac amcanion sy’n seiliedig ar wybodaeth y sefydliad o fewn yr agenda gwelliant parhaus.

• Cefnogi’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau i weithio mewn ffordd agored a thryloyw, gan ddatblygu partneriaethau strategol, rhwydweithiau a fforymau effeithiol i alluogi cydweithio llwyddiannus gan sicrhau ein bod yn datblygu ein hamcanion busnes.

• Mae gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid yn hanfodol i sicrhau ein bod yn deall, yn gwrando ac yn ymateb i anghenion. Rydym yn gweithio ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, cyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymunedol, y byd academaidd, diwydiant a’r cyhoedd.

• Gweithio’n agos gyda thimau eraill, cyfarwyddiaethau a’r teulu GIG ehangach i ddarparu dangosfwrdd a data i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl.

• Cymryd rhan mewn rota rheoli 24x7 ar alwad.ĚýĚýĚýĚý

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • • Gradd meistr mewn maes proffesiynol cysylltiedig (neu gymhwyster/profiad cyfatebol).
  • • Tystiolaeth o addysg a/neu hyfforddiant lefel uwch perthnasol pellach.
  • • Gwybodaeth a enillwyd drwy brofiad ymarferol o weithio ar y lefel hon, ar draws yr ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith.
  • • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
  • • Gwybodaeth ddamcaniaethol ac arbenigol a gafwyd trwy ardystiad perthnasol fel: o Diploma CMI Lefel 5 mewn Rheoli ac Arwain o ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli (Rheolwr Canol) o Arweinydd ITIL 4: Strategaeth Ddigidol a TG (ITIL 4 Modiwl Arweinydd Strategol) o ITIL 4 Arweinydd Strategol o ITIL 3 Rheoli ar draws y Cylch Bywyd o ITIL 3 Arbenigwr

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Arbenigwr mewn gweithredu datrysiadau monitro cynhwysfawr mewn amgylcheddau cymhleth ar raddfa fawr, sy’n cynnwys datblygu datrysiadau monitro wedi’u teilwra yn Ă´l yr angen i ddarparu cynrychiolaeth gywir o brofiad y defnyddiwr terfynol
  • • Profiad a gwybodaeth fanwl am offer a phlatfformau monitro menter, megis SolarWinds, Dynatrace, Nagios, Splunk, Microsoft System Center ac eraill. Dealltwriaeth gref o seilwaith TG, gwasanaethau cwmwl, monitro perfformiad cymwysiadau, a monitro rhwydwaith.
  • • Profiad sylweddol o weithredu a/neu reoli Canolfan Gweithrediadau Menter.
  • • Hyfedr yn yr amgylchedd TG sy’n ymwneud â’ch maes gwaith eich hun (eich sefydliad eich hun a/neu sefydliadau sydd â chysylltiad agos, megis cwsmeriaid, cyflenwyr, partneriaid), yn enwedig platfformau technegol eich sefydliad eich hun a’r rhai sy’n rhyngwynebu â nhw drwy’r arbenigedd, gan gynnwys y rheini mewn sefydliadau sydd â chysylltiad agos.
  • • Hyfedr wrth nodi, cytuno a monitro amcanion a thargedau gydag unigolion. Nodi materion tanberfformio yn erbyn safonau ansawdd a meini prawf perfformiad y cytunwyd arnynt a nodi bylchau mewn gallu ac achosion.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • • Sgiliau arwain i fynegi nodau ac amcanion yn glir, ac ysgogi ac arwain eraill tuag at eu cyflawni.
  • • Sgiliau rhyngweithio â phobl i sefydlu perthnasoedd, gan gyfrannu at ddiwylliant agored a chynnal cysylltiadau â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a disgyblaethau.
Meini prawf dymunol
  • • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 neu uwch o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity Champion

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carwyn Lloyd-Jones
Teitl y swydd
Director of ICT
Cyfeiriad ebost
[email protected]