Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC063-0325
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Llawr 2il, Uned 1
- Tref
- Pencoed,
- Cyflog
- £75,405 - £86,885 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Cyfarwyddiaeth Cynllunio Chyflawni Ariannol
Gradd 8c
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i.
Ein Gwerthoedd
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Sefydlwyd y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol (“y Gyfarwyddiaeth”) i ddarparu cymorth proffesiynol er mwyn i Lywodraeth Cymru ymateb a mynd i’r afael â’r heriau ariannol sy’n wynebu GIG Cymru. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu ledled Cymru ac yn cefnogi holl sefydliadau GIG Cymru yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys:
Monitro a rheoli risg ariannol yn GIG Cymru, gan ymateb yn gyflym pan fo sefydliadau'n dangos arwyddion o bryder ariannol.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni cynlluniau ariannol ac adnoddau cadarn yn ystod y flwyddyn a’r tymor canolig
Hybu'r agenda effeithlonrwydd ar gyfer GIG Cymru, gan weithio gyda sefydliadau GIG Cymru i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o gyfleoedd effeithlonrwydd.
Hyrwyddo ac ymgorffori arferion gorau rheolaeth ariannol a’r defnydd o adnoddau.
Datblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwybodaeth a Deallusrwydd Ariannol, sy'n ymwneud â chostio, meincnodi, dyrannu a defnyddio adnoddau, er mwyn helpu i ysgogi gwelliannau ar effeithlonrwydd technegol a dyrannu ar draws GIG Cymru.
Arwain ymchwil a nodi arferion gorau o ran rheolaeth ariannol a mabwysiadu arferion a thystiolaeth y profwyd eu bod yn gweithio yn gyflym mewn ffordd gyson a chynhwysfawr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys arferion gorau ar ddulliau, methodoleg a gweithredu.
Cefnogi datblygiad Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn GIG Cymru yn ôl y gofyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r Gyfarwyddiaeth yn galluogi’r agenda hon ac yn cyflawni’r amcanion hyn drwy feithrin perthnasoedd effeithiol o fewn ac ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:
Arwain y gwaith o gynhyrchu, dilysu a gwella data costio Cymru, gan gynnwys llywodraethu ymarferwyr costio a meincnodi wrth gyflawni’r agenda hon.
Datblygu'r defnydd o ddata costio sy'n cynnwys cysylltu a modelu â data arall fel rhan o 'ddata mawr', i gefnogi amcanion cynllunio ac effeithlonrwydd ehangach y Gyfarwyddiaeth. Bydd hyn yn cynnwys cywirdeb, sicrwydd ansawdd a chynnal a chadw cynhyrchion dadansoddi cysylltiedig.
Datblygu’r canllawiau a’r safonau cenedlaethol cysylltiedig yn strategol ac yn dechnegol, gan fod yn ymwybodol o’r cyfeiriad yn y dyfodol a’u bod wedi’u halinio drwy fewnbwn gan randdeiliaid.
Meithrin a chynnal perthynas arweiniol gyda darparwyr systemau costio a meincnodi, ar ran GIG Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Bydd gan y rôl ryddid sylweddol i weithredu. Ac fel rhan o’r uwch dîm bydd yn gweithredu ar lefel strategol gyda rhanddeiliaid ar draws sefydliadau GIG Cymru, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol, arweinwyr clinigol cenedlaethol, a thimau eraill GIG Cymru gan gynnwys Cyfarwyddiaethau eraill o fewn Gweithrediaeth y GIG. Mae'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol yn angerddol am bobl a datblygiad proffesiynol. Mae ganddi raglen ddatblygu uchelgeisiol ar gyfer y tîm cyffredinol a holl aelodau'r tîm. Mae’r rôl hon yn gyfle delfrydol i rywun sy’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau a’i brofiadau ar draws agenda genedlaethol eang a chyffrous.
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Os ydych chi'n weithiwr cyllid proffesiynol uchel ei gymhelliant, profiadol a chymwys sydd â chefndir amlwg cryf sy'n cynnwys costio, rheolaeth ariannol, perfformiad, gwybodaeth, a chyflawni, yna byddem yn awyddus i glywed gennych ac yn croesawu eich cais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Wedi ennill cymhwyster CCAB / CIMA ac yn Aelod o Gorff Proffesiynol
- Wedi cael addysg i lefel Ôl-radd neu gyfatebol, Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau Rheoli Prosiectau / Rhaglenni, Tystiolaeth o ymchwil personol i faes clinigol, ariannol neu reolaeth
- Tystiolaeth o ymchwil personol i faes clinigol, ariannol neu reolaeth
PROFIAD A GWYBODAETH ARBENIGOL
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth yn gweithio ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth mawr, Profiad y gellir ei brofi o ddatblygu a chyflawni gwasanaethau rheoli ariannol yn llwyddiannus ar gyfer sefydliad mawr.
- O leiaf bum mlynedd o brofiad fel uwch reolwr cyllid yn y GIG
- Hanes o gyfraniad effeithiol at lunio strategaethau busnes, Profiad o gynllunio a gweithredu rhaglenni datblygu hirdymor.
- Profiad o feddwl yn strategol ar lefel uwch, Y gallu i ddylanwadu ar bob lefel ac yn feddyliwr hynod strategol
- Llwyddiant blaenorol o gyflwyno camau i wella gwasanaethau neu o reoli newid sefydliadol mawr mewn amgylchedd cymhleth. Cyfranogi mewn prosiectau rheoli newid mawr
- Profiad sylweddol o weithio gyda staff, eu cynrychiolwyr a sefydliadau proffesiynol. Llwyddiant y gellir ei ddangos yn adeiladu, arwain, cymell, rheoli a datblygu timau.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddulliau Cwblhau ac Ymyrraeth ac o’u darparu, Yn dangos arbenigedd mewn meysydd proffesiynol penodol
- Gwybodaeth dda am gyfundrefn gyllid GIG Cymru, gan gynnwys dealltwriaeth drylwyr o ddyletswyddau ariannol, cyfrifoldebau a gofynion llywodraethu sefydliadau, Dealltwriaeth dda o gysyniadau Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
SGILIAU A GALLU
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddadansoddi a chyflwyno’n briodol wybodaeth sy’n aml yn hynod gymhleth, Sgiliau dadansoddi rhagorol, gan gynnwys y gallu i adnabod ystyriaethau allweddol o amrywiol ddata cymhleth, Y gallu i ddehongli gwybodaeth ansoddol a meintiol gymhleth a rhoi cyngor i uwch arweinyddion
- Y gallu i gyfathrebu’n rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd sy’n glir, yn rhugl ac yn argyhoeddiadol
- Yn llawn ysgogiad ac yn ymroddedig i ddatblygu chi eich hun ac aelodau’r tîm. Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a threfnu eich llwyth gwaith chi a’r tîm er mwyn gweithredu’n effeithiol. Y gallu i weithio’n annibynnol yn unol â chylch gorchwyl penodol, gan sicrhau y glynir wrth yr amserlenni a’r amcanion y cytunwyd arnynt
- Yn gallu dangos lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol, gan arddangos hygrededd, dylanwad a chraffter gwleidyddol. Gallu blaenorol i gyrraedd targedau a chyflawni amcanion mewn amgylchedd heriol a dan bwysau mewn amserlenni heriol.
- Sgiliau bysellfwrdd safonol
- Sgiliau barnu, penderfynu, a threfnu cadarn. Yn gallu dehongli deddfwriaeth a chanllawiau fel y bo’n briodol i’r rôl.
Meini prawf dymunol
- Y gallu a’r hyder i herio’n adeiladol a chefnogi uwch staff y GIG a’u timau
- Y gallu a’r hyder i ddangos arweinyddiaeth ar draws GIG Cymru ar ysgogi gwelliannau mewn gwaith cynllunio ariannol a rheoli ariannol
CYMERIAD
Meini prawf hanfodol
- Agwedd briodol gyda lefel dda o uniondeb a moeseg broffesiynol, Brwdfrydig, Ymroddedig, Rhagweithiol, ac Arloesol
GOFYNION ERAILL
Meini prawf hanfodol
- Rhaid ichi fod yn symudol a gallu teithio’n lleol ac yn genedlaethol. Yn emosiynol ddeallus. Yn wleidyddol graff ac â greddf dda. Gweithio’n gydweithredol a meithrin perthnasoedd yn effeithiol. Gwytnwch a dibynadwyedd dan bwysau. Yn awchu am her, gyda lefel dda o uniondeb personol.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mrs Jessica Hammond
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
for any questions about the role or to arrange an informal visit please contact: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector