Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiotherapi
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AHP151-0325
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Ansawdd Radiotherapi
Gradd 7
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Ìý
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Ìý
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Radiograffyddion Therapiwtig / Technolegydd Clinigol band 7 i ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi flaengar yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;Ìý mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn i’r Rheolwr Ansawdd Radiotherapi ddatblygu a chynnal pob agwedd ar y system rheoli ansawdd radiotherapi, ar y cyd ag aelodau eraill y tîm radiotherapi amlddisgyblaethol.Ìý
Bydd deiliad y swydd hefyd yn rheoli pob agwedd ar y system rheoli ansawdd radiotherapi, i sicrhau bod amcanion ansawdd y gwasanaeth radiotherapi amlddisgyblaethol yn cael eu bodloni, yn unol â'r polisi ansawdd a gofynion rheoleiddio ac achredu.
Gan fod system rheoli ansawdd radiotherapi wedi’i sefydlu’n barod, mae'r rôl yn bennaf yn un o foderneiddio, gweithredu a chynnal a chadw, yn enwedig mewn perthynas â chydymffurfio â safonau ansawdd. Mae cynnal yr achrediad i’r safon Ansawdd ISO9001:2015 yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth radiotherapi amlddisgyblaethol. Ìý
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Gwasanaeth Canser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Ìý
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd BSc (Anrh) Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffwyr, Ffiseg, neu dechnolegydd clinigol.
- Cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd fel Radiograffydd neu Wyddonydd Clinigol neu Gofrestredig ar y Gofrestr Technolegydd Clinigol
- Tystiolaeth o DPP (datblygiad proffesiynol parhaus)
- Lefel Meistr berthnasol neu addysg gyfatebol
- Gwybodaeth drylwyr a manwl o egwyddorion a chysyniadau rheoli ansawdd ym maes radiotherapi
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion oncoleg cyfredol
- Gwybodaeth am reoliadau ymbelydredd
- Gwybodaeth am ISO 9001:2015
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Egwyddorion Sicrhau Ansawdd
- Gwybodaeth am Egwyddorion Archwilio Clinigol
- ISO 9001:2015 Cymhwyster Archwilydd Mewnol
- Rheoli risg
- Ymchwilio i ddigwyddiadau a dysgu o wallau
- Astudiaethau/cymhwyster arweinyddiaeth neu reolaeth
- Gwybodaeth am ymchwil a datblygu
- Dealltwriaeth o GIG Cymru
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes rheoli ansawdd radiotherapi
- Dealltwriaeth dda o egwyddorion rheoli ansawdd gydag ymwybyddiaeth o ganllawiau cyfredol a gofynion rheoleiddio ac achredu
- Rheoli Newid
- Datblygu a gweithredu protocol a pholisi
- Profiad o ysgrifennu deunydd i'w ddefnyddio ar lefel uwch
- Profiad o reoli data ac ysgrifennu adroddiadau
Meini prawf dymunol
- Profiad addysgu/mentora a/neu asesu
- Profiad o ddatblygu strategaeth neu bolisi
- Profiad uniongyrchol o reoli staff
- Profiad o gynnal asesiadau risg
- Profiad o reoli pryderon, cwynion a chanmoliaeth cleifion
- Profiad o brosiectau gwella ansawdd
Dawn a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu
- Y gallu i ysgogi eich hun ac eraill
- Yn gallu addasu i newid
- Sgiliau TG
- Yn dangos menter ac egni
- Yn gweithio’n dda mewn tîm
- Rhagoriaeth mewn gofal cleifion
- Agwedd hyblyg at waith ac anghenion y gwasanaeth
- Dibynadwy a phrydlon
Meini prawf dymunol
- Sgiliau addysgu
- Sgiliau mentora
- Y gallu i drafod a pherswadio
- Yn gallu siarad Cymraeg hyd at Lefel 1
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Davies
- Teitl y swydd
- Radiotherapy Clinical Governance Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 615888
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Extension 4859
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector