¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Bydwreigiaeth
Gradd
Gradd 6
Contract
12 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 16/03/2026 Cyfnod MamolaethTH)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (9-5 ar alwad)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR076-0325
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tîm Cymunedol Ceredigion
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/03/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
27/03/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Bydwraig - Cymunedol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 16/03/2026 Cyfnod Mamolaeth

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fydwraig ymuno â Thîm Bydwreigiaeth Cymunedol Gogledd Ceredigion. Mae'r tîm, sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol eang o Dregaron a Cheinewydd yn y de, i Eglwys Fach yn y gogledd, yn gweithio o'i ganolfan yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn ogystal â nifer o hybiau cymunedol a meddygfeydd ledled yr ardal. Mae'r tîm arobryn hwn yn teimlo'n angerddol ynghylch darparu parhad o ran gofalwyr, hyrwyddo dewis, cefnogi geni yn y cartref a hwyluso addysg gynenedigol. Mae aelodau’r tîm yn cefnogi ei gilydd yn fawr ac yn eithriadol o anogol, ac yn credu ei bod yn bwysig meithrin perthnasoedd gwaith agos a dibynadwy yn y tîm er mwyn darparu’r gofal gorau i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth. Maent hefyd yn rhoi blaenoriaeth i'w galluogi ei gilydd i ddatblygu a chamu ymlaen yn eu rolau, a chwblhau hyfforddiant ychwanegol i wella eu gwasanaeth.

Mae Ceredigion yn ardal hyfryd yng Ngorllewin Cymru, wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion. Mae yna draethau tywod, teithiau i weld dolffiniaid, Llwybr Arfordir Cymru a mynyddoedd garw gwledig oll ar garreg y drws. Mae yna amryfal drefi a phentrefi yn ardal tîm Gogledd Ceredigion, sy'n amrywio o gymunedau amaethyddol bach i drefi prifysgol mawr.Ìý

Ìý

Prif ddyletswyddau'r swydd

Chi fydd y cydlynydd gofal arweiniol ar gyfer menywod a phobl sy'n rhoiÌý
genedigaeth sy'n rhan o'ch llwyth achosion, gan ddarparu gofal unigol yn y cartref ac mewn clinigau cynenedigol cymunedol. Mae'r tîm yn cefnogi'r uned bydwreigiaeth ac obstetreg yn Ysbyty Bronglais pan fo'r angen yn fawr trwy ddarparu gwasanaeth ar alwad, sydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl darparu gwasanaeth geni yn y cartref. Mae addysg gynenedigol yn agwedd bwysig ar y rôl, gan fod y tîm yn cynnig pum opsiwn gwahanol i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth.

Byddwch hefyd yn gydlynydd gofal ar gyfer beichiogrwydd risg uchel, gan weithio'n agos gyda'r timau amlddisgyblaethol i sicrhau gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 27/03/2025

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad llawn gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth sydd wedi’i gymeradwyo

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o fentora a datblygu staff.
  • Sgiliau TG sylfaenol
  • Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
  • Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
  • Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
  • Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
  • ALSO - Cynnal Bywyd Uwch Obstetreg
  • NALS - Cymorth Bywyd Uwch Newyddenedigol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareCymraegCarer Confident -Accomplished - WelshCarer Confident -AccomplishedStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynn Smith-Hurley
Teitl y swydd
Clinical and Operational Lead Midwife
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07795 642203