¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Theatrau
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd shifftau yn cynnwys dyddiau'r wythnos a phenwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR600-1224
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gyffredinol Llwynhelyg
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Theatr (Adfer)

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am ymarferydd adfer brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'n tîm yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Fel band 6, bydd gofyn i chi gefnogi rhedeg y gwasanaeth / tîm adfer o ddydd i ddydd.

Mae gan yr Adran amgylchedd cefnogol cyfeillgar, sy'n canolbwyntio'n gryf ar waith tîm a gofal cleifion.Ìý

Mae'r tîm adfer yn dîm deinamig ac arbenigol iawn gyda phwyslais uchel ar reoli llwybrau anadlu datblygedig ac ymarfer amlddisgyblaethol agos.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddai'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster RGN/RN neu Ddiploma/Gradd mewn Ymarfer yr Adran Weithredu.Ìý

Rydym yn ddarparwr lleoliad rhagweithiol, nyrsio/ODP, felly mae'n rhaid i ymgeisydd feddu ar gymhwyster mentora neu fod yn barod i weithio tuag ato.Ìý

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 08/01/25

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).Ìý
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • RGN Lefel 1 neu Ymarferydd Adran Llawdriniaeth Gofrestredig
  • Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud a Theatr/adfer/anaestheteg
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus hyd at lefel diploma ol-raddedig
  • Sgiliau nyrsio clinigol estynedig
  • Yn fodlon ymgymryd a rhaglen datblygu arweinyddiaeth fewnol yn y ddwy flynedd nesaf
  • Yn fodlon ymgymryd a hyfforddiant arall sy'n hanfodol i'r rol
Meini prawf dymunol
  • Rhaglen Rheolaeth/Arweinyddiaeth
  • BSc (mewn pwnc cysylltiedig ag iechyd)/yn fodlon gweithio tuag ato
  • Modiwl addysgu ac asesu
  • Cwrs/modiwl gofal critigol cydnabyddedig
  • Modiwl Goruchwyliaeth Glinigol
  • Tystysgrif/diploma mewn nyrsio orthopedig neu trawma

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ol-gofrestru gan gynnwys profiad yn y maes clinigol perthnasol
  • Cymwyseddau aml-sgil yn yr adran lawdriniaeth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareCymraegCarer Confident -Accomplished - WelshCarer Confident -AccomplishedStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel McCready
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635608
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sharon Bonner -Ìý Uwch Nyrs Adfer

01970 628865