¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC244-1124-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
TÅ· Gorwel, Parc Dewi Sant
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Pennaeth Cynorthwyol y Tîm Cyfrifyddu Craidd

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy'n ehangu yn yr adran Gyllid, sy'n sail i gywirdeb ac uniondeb y cyfriflyfr cyfrifyddu a’r cyfrifon diwedd mis a diwedd blwyddyn.

Yn rôl Pennaeth Cynorthwyol y Tîm Cyfrifyddu Craidd, chi fydd y pwynt cyswllt arweiniol ar gyfer y Tîm Cyfrifyddu Craidd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gryno, mae cyfrifoldebau allweddol y rôl hon yn cynnwys y canlynol:

Cynorthwyo Dirprwy Bennaeth y Tîm Cyfrifyddu Craidd i sicrhau uniondeb yr holl drafodion cyfrifyddu a gofnodir yn y cyfriflyfr cyfrifyddu. Byddwch yn sicrhau cydymffurfedd â pholisïau a gweithdrefnau ariannol, yn rheoli rheolaethau ariannol a phrosesau archwilio, ac yn cefnogi'r prosesau ariannol diwedd blwyddyn, a fydd yn cynnwys cysylltu â'r archwilwyr allanol.Ìý

Bydd gennych hanes profedig o reoli tîm mawr. Bydd hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am ddyrannu llwythi gwaith a chydbwyso galwadau gwrthgyferbyniol o fewn y tîm a all newid ar fyr rybudd.Ìý
Gweithio ar eich menter eich hun i ysgogi arferion da a chydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau ariannol.Ìý

Bod yn gyfrifol am swyddogaeth y Cyfrifon Derbyniadwy a phrosesau'r Ffrydiau o brosesu ffeiliau ffrydio mewnol ac allanol i'r cyfriflyfr cyfrifyddu mewn modd amserol.Ìý

Meithrin a chynnal perthnasoedd proffesiynol rhagorol a llinellau cyfathrebu cadarn ag adrannau mewnol a phartneriaid allanol, megis darparwyr gwasanaethau a’r archwilwyr allanol.

Rheoli prosiect yr agenda gwella prosesau gan symleiddio meysydd gwaith ac awtomeiddio tasgau a wneir â llaw i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd.Ìý

Cyfrannu at ddiwylliant, llywodraethu ac amgylchedd rheoli cadarnhaol y tîm trwy gynnal arferion gwaith o safon uchel ac arwain y tîm trwy esiampl wrth ddatblygu a gweithredu gwelliannau newid parhaus newydd.

Ìý

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý

Cynhelir y cyfweliadau ar 22/01/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster CCAB neu'n astudio tuag at hynny, ond yn meddu ar brofiad ac arbenigedd hyd at lefel CCAB
  • Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol profedig
  • Gwybodaeth am systemau ariannol integredig
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
  • Gwybodaeth am System Adrodd P2P (Prynu i Dalu)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o reoli prosiectau gwella prosesau
  • Profiad o reoli tîm mawr
  • Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
  • Hanes amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
  • Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig
  • Profiad ariannol blaenorol yn y GIG
  • Profiad blaenorol o weithio gyda setiau data sylweddol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
  • Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
Meini prawf dymunol
  • Siardwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareCymraegCarer Confident -Accomplished - WelshCarer Confident -AccomplishedStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynne Jones
Teitl y swydd
Deputy Head Core Accounting Team
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 248613