¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Offthalmoleg
Gradd
GIG AfC: Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae yna oriau amrywiol llawn a rhan amser ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-NMR005-0125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/01/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/01/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Arbenigol Asesu Cyn-llawdriniaeth ar gyfer Offthalmoleg

GIG AfC: Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Mae Uned Llygaid Tysul yn bwriadu recriwtio Nyrs Arweiniol Asesu Cyn-llawdriniaeth ar gyfer Offthalmoleg. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ond mae'r rol yn gwasanaethu'r tri sir ac felly bydd angen teithio rhywfaint.Ìý

Mae'r rôl yn golygu mai'r Nyrs Arweiniol Asesu Cyn-llawdriniaeth ar gyfer Offthalmoleg a fydd y cyswllt sy'n gwarantu bod y cleifion sy'n cael triniaeth lawfeddygol yn cael y profiad gorau cyn eu llawdriniaeth. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb cyffredinol i optimeiddio'r gwasanaeth cyn-llawdriniaeth a ddarperir gan y gwasanaeth Offthalmoleg, a hynny trwy optimeiddio dulliau cofnodi, cysylltu â gwahanol gyd-weithwyr i sefydlu neu addasu protocolau, optimeiddio'r gwasanaeth a ddarperir trwy gysylltu â chyd-weithwyr nyrsio eraill a swyddogion y rhestr aros, helpu i weithredu canllawiau newydd, darparu hyfforddiant, awgrymu a gweithreduÌý
newidiadau i'r gwasanaeth, cynorthwyo gyda'r gwaith o gaffael cyfarpar, archwilio prosesau, a sicrhau bod y sianeli cyfathrebu angenrheidiol ar waith.Ìý

Bydd y Nyrs Arbenigol Asesu Cyn-llawdriniaeth hefyd yn gweithio'n annibynnol ac mewn modd celfydd wrth asesu cleifion cyn llawdriniaethau offthalmig, gan sicrhau bod proses gynhwysfawr, effeithiol ac effeithlon yn cael ei gweithredu ar gyfer pob claf.Ìý

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn annibynnol gyfrifol am adolygu gofal y claf, gan ddefnyddio offer sgrinio priodol i sicrhau bod yr holl gynlluniau gofal rheoli cyn-llawdriniaeth yn cael eu cwblhau mewn modd priodol, a bod y claf yn ffit ar gyfer y llawdriniaeth sydd i ddod ac ar y llwybr derbyn priodol.

Nodi cleifion yr ystyrir eu bod yn wynebu risg uchel o gymhlethdodau'n ymwneud â'r llawdriniaeth/anesthetig, a chydlynu'r gofal fel y bo'n briodol.

Rheoli llwyth achosion o gleifion, gan gydlynu'r gofal a'r gwasanaethau er mwyn gwella taith lawdriniaethol y claf.Ìý

Rheoli llwyth achosion o gleifion yn annibynnol. Gall hyn gynnwys cleifion sydd ag anghenion gofal cymhleth neu â chymhlethdodau cysylltiedig â'r anesthetig, yn ogystal â materion cymdeithasol cymhleth yn yr uned asesu cyn cychwyn.Ìý

Yn annibynnol, cofnodi hanes meddygol cynhwysfawr a chynnal archwiliad corfforol systematig, os yw hynny'n briodol, er mwyn sefydlu data dechreuol a nodi problemau iechyd a chymdeithasol yr unigolyn.

Gwella'r dull o reoli cleifion trwy optimeiddio iechyd trwy sgrinio a chynnal asesiad llawn, gan sicrhau bod yr archwiliadau priodol yn cael eu cynnal, a bod yr anghenion o ran triniaeth a gofal yn cael eu nodi, yn unol ag arfer seiliedig ar dystiolaeth, a chan leihau'r risg i'r claf.Ìý

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.Ìý

Cyfweliadau i'w cynnal ar 23/01/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).Ìý
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd/diploma mewn Nyrsio a chofrestriad gweithredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Tystiolaeth o hyfforddiant parhaus ar asesiadau cyn-llawdriniaeth neu bynciau'n ymwneud ag offthalmoleg ar lefel ôl-raddedig arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ôl-raddedig mewn Offthalmoleg
  • Cymhwyster ôl-raddedig mewn gofal amdriniaethol, anesthesia ac adferiad, asesiad cyn cychwyn, neu faes perthnasol arall
  • Hyfforddiant penodol ar fiometreg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn perthynas ag offthalmoleg a/neu asesiad cyn cychwyn
  • Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn
  • Profiad o gofnodi hanes ac asesiadau corfforol
  • Profiad o addysgu anffurfiol a ffurfio
  • Sgiliau TG da a pharodrwydd i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd a systemau cleifion newydd
  • Profiad o oruchwylio staff iau
  • Y gallu i gynnal archwiliadau clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn perthynas â biometreg
  • Cymhwyster addysgu/mentora
  • Profiad o WPAS
  • Profiad o gymryd rhan mewn proses recriwtio a dethol
  • Profiad o gymryd rhan yn y broses o ddatblygu'r gwasanaeth
  • ECDL

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareCymraegCarer Confident -Accomplished - WelshCarer Confident -AccomplishedStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Marta Barreiro Martins
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07815022127
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sister Amy Hodge [email protected]

Sister Katrine Thomas [email protected]