Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Seicolegydd Cynorthwyol
Agenda ar gyfer Newid y GIG: Band 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Ìý
Trosolwg o'r swydd
Cynorthwyo'r Ymarferydd/Ymarferwyr Seicoleg i ddarparu gofal seicolegol proffesiynol i blant a'u teuluoedd ym maes Pediatreg, a hynny trwy gyflawni asesiadau ac ymyriadau seicolegol dan oruchwyliaeth seicolegydd proffesiynol cymwys, a chan weithio'n annibynnol yn ôl cynllun yÌý
cytunir arno â seicolegydd cymwys, ac o fewn fframwaith cyffredinol polisïau a gweithdrefnau Seicoleg Bediatrig. Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol clinigol-berthynol, cynnal archwiliadau, casglu ystadegau, datblygu prosiectau archwilio a/neu ymchwil, addysgu a gwaith prosiect.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dan oruchwyliaeth seicolegydd cymwys, cynnal asesiadau seicolegol seiliedig ar brotocol o blant a theuluoedd, a hynny gan ddefnyddio profion seicolegol, mesurau hunanadrodd, graddfeydd graddio, arsylwadau strwythuredig uniongyrchol ac anuniongyrchol, a chyfweliadau lled-strwythuredig â chleientiaid, aelodau o'r teulu ac eraill sy'n ymwneud âÌý
gofal yr unigolyn. Gallai hyn olygu asesu plant a'u teuluoedd mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys mewn clinig, yn y cartref ac mewn ysgol/lleoliad gofal plant.
Ìý
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Ìý
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
Ìý
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Ìý
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Ìý
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu cymorth i lunio a gweithredu cynlluniau ar gyfer triniaeth a/neu reolaeth seicolegol ffurfiol mewn perthynas ag anghenion y cleient (iechyd meddwl, anableddau dysgu ac anghenion datblygiadol). Bydd y rhain yn seiliedig ar fframwaith cysyniadol priodol o broblemau'r cleient, ac yn defnyddio dulliau seiliedig ar dystiolaeth o effeithiolrwydd, ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, a hynny dan oruchwyliaethÌý
ymarferydd seicoleg cymwys.Yn ôl yr hyn sy'n ofynnol, cynnal asesiadau risg dan oruchwyliaeth yr ymarferydd seicoleg cymwys, a datblygu cynlluniau rheoli risg.
Cynorthwyo i werthuso a gwneud penderfyniadau ynghylch opsiynau ar gyfer triniaethau, gan ystyried modelau damcaniaethol a therapiwtig, ynghyd â ffactorau cymhleth iawn sy'n ymwneud â'r prosesau hanesyddol a datblygiadol a fu'n gyfrifol am lunio'r unigolyn, y teulu neu'r grŵp.
Gweithio gyda staff eraill i asesu cleientiaid mewn lleoliadau cymunedol ac mewn ysbytai, ac adolygu eu gofal er mwyn paratoi ar gyfer adolygiadau amlddisgyblaethol.
Ìý
Ìý
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý
Ìý
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý
Ìý
Cynhelir y cyfweliadu ar 23/01/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Seicoleg
- Hawl i aelodaeth raddedig o Gymdeithas Seicolegol Prydain (Sail Raddedig ar gyfer Statws Siartredig)
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ôl-raddedig pellach mewn meysydd perthnasol o ran seicoleg broffesiynol, ymarfer iechyd meddwl a/neu gynllunio a dadansoddi ymchwil
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Mae'n bosibl y rhoir ystyriaeth i brofiad o weithio yn rôl seicolegydd cynorthwyol neu rôl hynod o debyg
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Profiad o gynnal asesiadau seicometrig
- Profiad o weithio yn y GIG
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu lefel uchel (yn ysgrifenedig ac ar lafar), gan gynnwys y gallu i gyfathrebu a gweithio mewn lleoliadau lle gall yr awyrgylch fod yn emosiynol iawn
- Sgiliau cwnsela
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth sensitif i gleientiaid, gofalwyr a chyd-weithwyr mewn modd sy'n mynd i'r afael â gwrthwynebiad seicolegol
- Dealltwriaeth o anghenion ac anawsterau plant a theuluoedd lle bo problemau iechyd meddwl neu anawsterau datblygiadol yn bodoli
- Y gallu i gymhwyso gwybodaeth seicolegol gyfredol i gyd-destun plentyn a theulu
- Dealltwriaeth o seicoleg sy'n berthnasol i ofal iechyd
- Sgiliau TG sylfaenol (e.e. prosesu geiriau, taenlenni, graffio data)
- Y gallu i ryngweithio'n effeithiol â staff o bob disgyblaeth
- Y gallu i ryngweithio â phobl â phroblemau iechyd meddwl
- Y gallu i weithio'n annibynnol, ac mewn modd dibynadwy sy'n gyson â'r gwaith y cytunwyd arno ac a reolir yn rheolaidd
- Y gallu i dderbyn a defnyddio goruchwyliaeth glinigol mewn modd priodol ac effeithiol
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ysgrifennu adroddiadau uchel eu safon
- Yr awydd i archwilio gyrfa mewn seicoleg broffesiynol
Arall
Meini prawf hanfodol
- An ability to travel around the footprint of the Health Board in a timely manner.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julian Jeremy
- Teitl y swydd
- Consultant Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07443296905
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector