¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Band 6
Contract
24 mis (Cyfnod penodol/Secondiad tan 30/07/2027)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan mewn ar alwad, penwythnos, Gŵyl y Banc a rotas hwyr)
Cyfeirnod y swydd
100-PST005-0325
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Glangwili/Gofal Sylfaenol Ceredigion
Tref
Caerfyrddin/ Ceredigion
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/03/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
21/03/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/Ìý Secondiad tanÌý 30/07/2027.Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

A ydych newydd gymhwyso neu'n chwilio am gyfle i newid gyrfa? A ydych am deimlo eich bod wedi eich grymuso i fod yn rhan o’r newidiadau yn y proffesiwn fferylliaeth? A yw'r syniad o ddatblygu a dysgu mewn amrywiaeth o arbenigeddau clinigol yn apelio atoch?R

Mae gennym un swydd Fferyllydd Band 6 llawn amser yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac un swydd Fferyllydd Band 6 llawn amser wedi'i rhannu rhwng Ysbyty Cyffredinol Glangwili a Gofal Sylfaenol Ceredigion.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan fentoriaid fferyllol mewn amgylchedd gwaith anogol i ddatblygu eu portffolio gyrfa ac ymgymryd â’r cymhwyster presgripsiynu. Ar hyn o bryd mae presgripsiynwyr yn gweithio ym meysydd Rhewmatoleg,Gwasanaethau Canser,Dermatoleg,Gastroenteroleg,Methiant y Galon,Eiddilwch. Byddwch yn rhan o’r gwaith arfaethedig i drawsnewid systemau rheoli meddyginiaethau yn ddigidol, a chewch eich annog yn frwd i ymgysylltu â’r prosesau hyn i sicrhau ei lwyddiant.

Ìý

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd un swydd yn cael ei lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili a bydd y swydd arall yn cael ei rhannu rhwng Ysbyty Cyffredinol Glangwili a Gofal Sylfaenol Ceredigion. Nodwch yn llinell gyntaf y wybodaeth ategol am eich cais y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Anogir ymgeiswyr i gysylltu â'ch safle dewisol a threfnu trafodaeth anffurfiol ac ymweliad cyn y cyfweliadau.

  • Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth fferylliaeth glinigol a rheoli meddyginiaethau diogel ac effeithiol i un neu fwy o feysydd clinigol, ac yn cynghori staff meddygol a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach ar faterion fferylliaeth.
  • Gall cylchdroadau gynnwys (yn dibynnu ar y safle lle'r ydych wedi eich lleoli) meddygaeth, derbyniadau, llawfeddygaeth, trawma ac orthopedeg, eiddilwch, gofal critigol, pediatreg, a gofal lliniarol, efallai y bydd cyfle i ddeiliad y swydd mewn gofal sylfaenol gylchdroi o fewn gwasanaethau gofal eilaidd.
  • Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol a pholisïau Bwrdd Iechyd y Brifysgol. Bydd yr argymhellion yn y Cod Moeseg a gyhoeddwyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a'r rhwymedigaethau yn y Safonau Arfer Proffesiynol Da yn cael eu cynnal bob amser.
  • Rhaid i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant ôl-gofrestru a nodir gan y gwasanaeth ac yn unol ag anghenion unigol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).Ìý
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r ddwy swydd yn cynnwys cyfle datblygu ffurfiol o Raglen Hyfforddi Sylfaen Ôl-gofrestru AaGIC strwythuredig. Mae hyn yn darparu'r sylfaen ar gyfer datblygu gyrfa rhagorol a llwyfan ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. I fodloni'r meini prawf ar gyfer y lle sylfaen AaGIC, rhaid i chi fod yn gymwys ym mis Gorffennaf 2025 neu wedi cofrestru gyda'r GPhC ar ôl Gorffennaf 2024.

Ìý

Ìý

Gweler y swydd ddisgrifiad ynghlwm.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:Ìý

Cymryd rhan yn y broses o ddarparu a datblygu gwasanaethau fferylliaeth glinigol ar y ward.

Cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu Gwybodaeth am Feddyginiaethau a gwasanaethau cynghori i staff meddygol, staff nyrsio a staff eraill.

Darparu cymorth fferylliaeth glinigol i ddosbarthfeydd cleifion mewnol a chleifion allanol, ac ymgymryd â rôl y Fferyllydd Cyfrifol yn ôl y gofyn.

Darparu goruchwyliaeth broffesiynol i staff technegol a staff cymorth.

Cyfrannu at y gwaith o hyfforddi Fferyllwyr dan Hyfforddiant a Thechnegwyr Fferyllol.

Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol.

Cyfrannu at arfer a datblygu trefniadau llywodraethu ansawdd ledled yr adran.

Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant (rheolaethol a phroffesiynol) a nodir trwy'r broses gwerthuso staff.

Gweithio ar benwythnosau, ar alwad, ar Wyliau Banc, yn gynnar ac yn hwyr, yn unol â'r rotas y cytunir arnynt.

Cynnal cyfrinachedd bob amser mewn perthynas â chleifion, staff a'r Ymddiriedolaeth.

Cymryd rhan lawn yn y Broses Gwerthuso Staff.

Bod yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau Gweithredol, Personél, ac Iechyd a Diogelwch perthnasol, a chydymffurfio â nhw, gan gynnwys Tân, COSHH, a Dim Smygu nac Alcohol.

Cynnal amgylchedd diogel trwy lynu wrth bolisïau lleol ar gyfer rheoli heintiau.Ìý

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý

Cynhelir y cyfweliadu ar 21/03/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd neu gyfwerth)
  • Aelod o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (fferyllydd cofrestredig neu hyfforddai fferylliaeth cyngofrestru yn ystod y broses ymgeisio; rhaid bod yn fferyllydd cofrestredig ar y dyddiad dechrau)
  • Cymhwyster mewn Saesneg Iaith – TGAU gradd C neu uwch neu sgor IELTS o 6.5 mewn ysgrifennu a 6.0 yn yr holl gydrannau eraill
  • Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am ofal iechyd mewn fferyllfa, a phrofiad ohono
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau
  • Profiad o weithio mewn ysbyty
  • Gwasanaethau Technegol
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr cyn-gofrestru, technegwyr a chynorthwywyr
  • Profiad ym maes gofal sylfaenol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareCymraegCarer Confident -Accomplished - WelshCarer Confident -AccomplishedStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carys Dyer
Teitl y swydd
Lead Pharmacist Clinical Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227469
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rhian John (Gofal Sylfaenol) [email protected] neu 01554 899 011