¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST060-1224
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/01/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/01/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn Ysbyty'r Tywysog Philip ar gyfer Fferyllydd Clinigol Arbenigol cylchdro sydd â'r brwdfrydedd a'r gallu i ddod yn rhan o'r Tîm Fferylliaeth dynamig. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi i adeiladu ar eich sgiliau sylfaen a datblygu eich arbenigedd.

Mae Ysbyty'r Tywysog Philip yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth sydd â thua 250 o welyau, wedi'i leoli yn nhref Llanelli ychydig oddi ar yr M4 o fewn cyrraedd hawdd i Abertawe, Gŵyr a Gorllewin Cymru.

Mae'n darparu amrywiaeth o arbenigeddau meddygol, gan gynnwys uned gofal coronaidd, uned gofal dwys, uned strôc acíwt, gofal lliniarol, orthopedeg, llawfeddygaeth gyffredinol, yn ogystal ag uned derbyniadau a meddygol brysur, uned mân anafiadau a gofal brys ar yr un diwrnod. Mae datblygiad proffesiynol o'r pwys mwyaf, a darperir cymorth aÌýhyfforddiant. Rydym yn dîm blaengar sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n gweithio’n agos gyda’r timau amlddisgyblaethol i wella diogelwch cleifion trwy roi cyngor proffesiynol i bresgripsiynwyr, cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, a mynychu rowndiau wardiau y meddygon ymgynghorol.

Mae'r tîm fferyllol arloesol a chyfeillgar wedi hen sefydlu yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn uchelgeisiol a llawn cymhelliant, yn sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar les gorau ein cleifion, ac yn ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd yn gofyn am fferyllydd uchel ei gymhelliant sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a rheoli amser rhagorol. Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o gylchdroadau rhwng wardiau, a byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau yn y ddosbarthfa, yn cynnwys cynnal gwiriadau clinigol o bresgripsiynau gofal yn y cartref/unedau arllwysiadau, yn ogystal â phresgripsiynau cleifion allanol.Ìý

Bydd y swyddi hyn yn eich galluogi i ddyfnhau eich gwybodaeth a'ch arbenigedd ac i ehangu sgiliau trosglwyddadwy o dan gyfarwyddyd cyd-weithwyr profiadol. Byddwch yn adeiladu ar brofiad blaenorol, gan ddatblygu mwy o ymreolaeth a chyfrifoldeb, a byddwch hefyd yn magu profiad mewn nifer o feysydd arbenigol. Bydd deiliad y swydd yn cael eiÌý
gefnogi i ymgymryd â'r cymhwyster presgripsiynu anfeddygol os nad yw eisoes yn meddu ar y cymhwyster hwnnw, neu'n cael ei gefnogi i ddefnyddio ei gymhwyster i ddatblygu ei arbenigedd ymhellach.Ìý

Bydd disgwyl i chi gefnogi'r fferyllwyr iau yn y tîm, ynghyd â'r fferyllwyr dan hyfforddiant, a'r myfyrwyr israddedig sy'n dilyn y cwrs MPharm.

Bydd deiliaid y swyddi'n cyfrannu at y broses o gynllunio a chyflawni'r strategaeth optimeiddio meddyginiaethau.

Anogwn ddarpar ymgeiswyr i gysylltu â ni i drafod y swydd hon ymhellach.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Ìý

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý

Cynhelir y cyfweliadu ar 23/01/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd) neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Fferyllydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr, technegwyr, cynorthwywyr a myfyrwyr
  • Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Gwybodaeth am faes arbenigol fel y disgrifir yn yr hysbyseb swydd
Meini prawf dymunol
  • Tiwtor cyn gofrestru achrededig
  • Tiwtor Fferylliaeth Diploma Achrededig
  • Presgripsiynydd Annibynnol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yr hyblygrwydd i ymgymryd a dyletswydd frys, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc ac agor gyda'r nos
  • Yn meddu ar ymagwedd hyblyg
  • Teithio rhwng safleoedd a'r tu allan i'r sefydliad
  • Yn deall ac yn amlygu ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad datblygedig iawn o ofal iechyd
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn o leiaf un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareCymraegCarer Confident -Accomplished - WelshCarer Confident -AccomplishedStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Elizabeth Mary Williams
Teitl y swydd
Clinical lead Pharmacist, Prince Philip Hospital
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783207
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mari TreharneÌý

01554 783210

[email protected]