Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Arlwyo
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda ¹û¶³´«Ã½APP), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDda¹û¶³´«Ã½APP
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Ìý
Trosolwg o'r swydd
Mae Adran Arlwyo Ysbyty Tywysog Philip ar hyn o bryd am recriwtio dau Gynorthwyydd Arlwyo. Y contractau sydd ar gael yw 1 x swydd 22.5 awr (Cynorthwyydd Arlwyo / bwyty) a weithir dros 3 diwrnod yr wythnos. 1 x swydd 20 awr (golchi llestri yn y gegin) yn cael ei weithio 4 diwrnod yr wythnos.
Mae oriau gwaith ar sail rota tair wythnos - dydd Llun i ddydd Sul rhwng 06:00am -Ìý20:00pm i gynnwys Gwyliau Banc yn ôl yr angen a bydd taliad ychwanegol yn cael ei wneud ar eu cyfer.
Byddant yn ymuno â thîm mawr o unigolion o fewn yr adran i ddarparu gwasanaeth glanhau ac arlwyo effeithiol ac effeithlon. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan annatod o fewn y tîm wrth sicrhau bod y bwyd yn cael ei baratoi, ei ddosbarthu a bod yr adran yn cael ei glanhau i'r safon uchaf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd dyletswyddau'n amrywio gan gynnwys dyletswyddau bwyty a golchi llestri. Bydd deiliaid y swyddi'n cael eu cefnogi a'u hyfforddi ar sut i ddarparu lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid ac i ailstocio ardaloedd tra'n cynnal ardal lân a hylan. Bydd angen delio â thaliadau cerdyn ac arian parod.
Bydd dyletswyddau yn cynnwys:
- Glanhau'r gegin yn ddwfn a glanhau'r offer a ddefnyddir yn ystod y dydd.Ìý
- Derbyn cyflenwadau i'r gegin a chofnodi tymereddau a'u cadw yn y mannau cadw a neilltuwyd. Casglu biniau gwastraff bwyd o ardaloedd wardiau.
Bydd yr unigolion llwyddiannus yn derbyn gwisg a hyfforddiant llawn.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.Ìý
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.Ìý
Cynhelir y cyfweliadau ar 24/01/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn llythrennog a rhifog
- Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, COSHH, symud a chodi a chario (hyfforddiant yn y swydd)
- Lefel diogelwch bwyd 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- NVQ lefel 3
- Gwesteiwr Croeso
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes lletygarwch neu mewn amgylchedd cegin
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
- Profiad o weithio yn amgylchedd cegin fawr
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Richard Daniel
- Teitl y swydd
- Specialist Services Assistant Manager (Catering)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554783732
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ìý
Ìý
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector