¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Podiatry
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 2 flynedd (MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 2 BLYNYDDOEDD OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-AHP052-1024-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Coffa Llandrindod (Llandrindod)
Tref
Llandrindod, Powys
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Podiatrydd

Gradd 5

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.Ìý

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 2 BLYNYDDOEDD OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Bodiatrydd sydd newydd gymhwyso neu wedi yn ddiweddar i ymuno â Thîm Cymunedol sy'n cwmpasu gogledd Powys (Lleoliad i'w gadarnhau fel naill ai’r Drenewydd neu'r Trallwng). Rydym yn cynnal amrywiaeth o glinigau gan gynnwys biomecaneg, diabetes, gofal clwyfau, llawdriniaeth ewinedd, clinigau podiatreg cyffredinol ac ymweliadau cartref mewn gwahanol leoliadau daearyddol. Byddwn ni'n darparu mentor penodol i'r ymgeisydd llwyddiannus a rhaglen fentora strwythuredig.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a brwdfrydig i ddarparu gofal Podiatreg a hyrwyddo rhagoriaeth glinigol ar draws y sir. Bydd gan ddeiliad y swydd hefyd berthynas waith agos gyda'r Podiatrydd Arbenigol a gwasanaethau Cymunedol eraill yn y Sir i hyrwyddo taith ddi-dor i gleifion.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd annibynnol, a meddu ar y brwdfrydedd i ddatblygu, gyda chefnogaeth gan uwch staff, yn eich rôl fel podiatrydd. Bydd angen i chi ddangos sgiliau cyfathrebu a threfnu da a gweithio'n dda fel rhan o dîm. Disgwylir i chi gymryd rhan weithredol yn y gwaith i wella gwasanaethau a maes clinigol yn barhaus. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at, ac yn cael budd allan o’r model goruchwylio cadarn sydd yn ei le er mwyn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu ar y cyd ar draws gwasanaethau.

Byddwch yn rhan o dîm, gan ddefnyddio egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth/ sy'n canolbwyntio ar gleifion i asesu, cynllunio a chyflwyno rhaglenni triniaeth unigol a chyfrifoldeb dirprwyo lle bo'n briodol. Byddwch hefyd yn goruchwylio cynorthwywyr podiatreg a myfyrwyr, er mwyn hyrwyddo ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi penderfyniadau. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn aelod brwd o'r tîm gyda dull hyblyg o weithio. Rhaid iddyn nhw feddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol i helpu gyda rheoli newid.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol am y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg yr un mor falch i ymgeisio.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.Ìý

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: . Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud Cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Ìý

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • BSc(Hons) in podiatry
  • Certificate in Local Anaesthesia
Meini prawf dymunol
  • POMs S Entitlement
  • Ability to speak Welsh

Essential

Meini prawf hanfodol
  • Knowledge of clinical governance agenda.
  • Work independently and seek advice as necessary
  • Be able to travel across PTHB
  • Knowledge of Health & Safety.
  • Ability to make decisions under pressure.
  • Effective communication skills, both written & verbal.
  • IT skills.
  • Committed to the profession & have a flexible working approach.
  • Professional appearance.
Meini prawf dymunol
  • Previous NHS experience

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Pride In Veterans

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Peter Taylor
Teitl y swydd
Head of Podiatry & Orthotics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01686613280