ýAPP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Haematoleg
Gradd
NHS Medical & Dental: Locum Consultant
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (am gyfnod penodol am 6 mis)
Oriau
Rhan-amser - 6 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-MD003-0325
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tonysguboriau
Tref
Pontyclun
Cyflog
£116,600 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Haematolegydd Ymgynghorol â diddordeb mewn Meddygaeth Rhoddwyr

NHS Medical & Dental: Locum Consultant

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa. Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.

Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.

Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.

Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma:

Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.

Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm o ymgynghorwyr, cofrestrydd arbenigol, meddygon arbenigol ac uwch ymarferwyr nyrsio, a bydd yn cyfrannu at ofal rhoddwyr. Rydym yn darparu gwasanaeth hanfodol i GIG Cymru o ran sicrhau bod ganddo fynediad at waed i gefnogi trin cleifion, i gefnogi’r rhaglenni trawsblannu ac yng ngwaith Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru. Mae’r ystod o wasanaethau rydym yn eu darparu yn eang, yn amlochrog ac yn hynod arbenigol, wedi’u cefnogi gan ymrwymiad clir i barhau i wella, i ddarparu gwasanaethau rhagorol ac i hybu iechyd a lles i bobl Cymru a thu hwnt.

Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn rota ymgynghorydd ar alwad 24 awr (pro-rata, tua 1 mewn 5 am gyfnod llawn amser).

Mae swyddi meddygol o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru yn atebol i'r Cyfarwyddwr Meddygol.

Mae hwn yn gontract locwm cyfnod penodol o 6 mis oherwydd anghenion y gwasanaeth.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio fel Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Rhoddwyr mewn partneriaeth agos â chydweithwyr sy’n uwch nyrsys a rheolwyr gweithredol i sicrhau bod safonau clinigol yn cael eu bodloni, a datblygu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol gwell ar gyfer casglu gwaed. Bod yn eiriolwr dros roddwyr bob amser drwy sicrhau bod eu lles pennaf yn cael eu hystyried wrth i bolisïau newydd ddatblygu.

Gwneud cyfraniad gweithredol at ddiogelwch rhoddwyr, cleifion a’r broses barhaus o ddiweddaru a gwella dulliau a meini prawf dethol rhoddwyr. Mae hyn yn cynnwys ymchwil, adolygiad systematig a chynhyrchu canllawiau ar gyfer rheoleiddio ymarfer. Cefnogir yr holl weithgareddau hyn o fewn strwythur Gwasanaeth Gwaed Cymru a chan beirianwaith JPAC ledled y DU.

Cynrychioli’r Tîm Clinigol Rhoddion Gwaed ar bwyllgorau cenedlaethol, timau gweithredol a rheoli prosiectau, a gweithgorau ad hoc, yn unol â gofynion y Cyfarwyddwr Meddygol.

Arwain staff y Nyrsys Clinigol Arbenigol i ddarparu asesiad o’r rhoddwyr.

Cadw cofnodion priodol sy'n berthnasol i ofal clinigol a phroses ddethol rhoddwyr.

Ymchwilio ac ymateb i gwynion gan roddwyr a digwyddiadau mewn perthynas ag ansawdd; adrodd am ddigwyddiadau niweidiol yn achos rhoddwyr a sicrhau bod proses ddilynol briodol ar gael ar gyfer pob rhoddwr

Cymryd rhan weithredol mewn Llywodraethu Clinigol a trawsgyflenwi y naill i’r llall â chydweithwyr sy'n gofalu am roddwyr a chleifion Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn ac arbenigol (a thrwydded i ymarfer) gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) (neu’n gymwys i gofrestru o fewn chwe mis i’r cyfweliad
  • Rhaid i ymgeiswyr sydd wedi'u hyfforddi yn y DU hefyd fod yn ddeiliad Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) neu fod o fewn 6 mis i ddyfarnu CCT erbyn dyddiad y cyfweliad.
  • Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt wedi'u hyfforddi yn y DU ddangos tystiolaeth eu bod yn cyfateb i CCT y DU
  • MRCP a FRCPath neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Traethawd ymchwil ôl-raddedig
  • Cymhwyster rheoli

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Hyfforddiant a phrofiad sy'n cyfateb i'r hyn sydd ei angen ar gyfer mynediad i'r gofrestr arbenigol
  • Gwybodaeth eang o feddygaeth gyffredinol
  • Profiad o archwilio clinigol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i roi barn arbenigol ar broblemau trallwyso yn ymwneud â rhoddwyr a chleifion

Profiad o Reoli a Phrofiad Gweinyddol

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gysylltu ag aelodau o'r timau gweithredol sy'n gweithio ym maes Rhoddion Gwaed (casglu a marchnata) a thimau clinigol
  • Y gallu i weithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o reoli gwasanaethau – prosesau cynllunio a rheoli pobl ac adnoddau
  • Profiad profedig o reoli ac arwain timau clinigol
  • Profiad amlwg o reoli newid
  • Profiad o wella gwasanaethau – gwerthuso’n feirniadol ac annog gwelliant ac arloesedd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o osod cyfeiriad - gwneud penderfyniadau a gwerthuso effaith, cyfrannu at strategaeth a dyheadau'r Sefydliad
  • Profiad o reoli cyllidebau

Profiad Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i addysgu myfyrwyr, nyrsys, staff gwyddonol a staff meddygol iau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio hyfforddeion meddygol

Profiad o ymchwilio

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth eang o lywodraethu ymchwil
Meini prawf dymunol
  • • Profiad o dreialon clinigol a/neu ymchwil

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity Champion

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Edwin Massey
Teitl y swydd
Medical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 622121
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Lisa George, Rheolwr Cymorth Busnes - Gwasanaethau Clinigol

[email protected]

01443 622009