¹û¶³´«Ã½APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatreg
Gradd
LAS ST Isaf
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (6 mis oherwydd cyllid / swydd hyfforddiant gwag a fydd yn weithredol o 5/02/2025 i 5/08/2025)
Oriau
Llawnamser - 40 awr yr wythnos (Sifft llawn Contract sylfaenol 40 awr ynghyd ag oriau ychwanegol ar gyfer rota ar alwad (48 awr yr wythnos ar gyfartaledd))
Cyfeirnod y swydd
130-43357782-241224
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Treforys
Tref
Abertawe
Cyflog
£ 1,767.60 Band LL/ 1A yr wythnos, yn cael ei dalu'n fisol
Yn cau
07/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe logo

LAS ST Isaf

LAS ST Isaf

EIN GWERTHOEDD A’N HYMDDYGIADAU

Rydym yn disgwyl fod pawb sy’n gweithio ar gyfer y Bwrdd Iechyd, beth bynnag yw eu rôl, yn rhannu ac yn ategu ein gwerthoedd ym mhopeth maent yn ei wneud:

Gofalu am ein gilydd – ym mhob cyswllt dynol ym mhob un o’n cymunedau ac ym mhob un o’n ysbytai.

Gweithio gyda’n gilydd - fel cleifion, teuluoedd, gofalwyr, staff a chymunedau fel ein bod yn rhoi cleifion yn gyntaf bob amser

Gwella bob amser – fel ein bod ar ein gorau i bob claf ac ein gilyddÌý


Ìý

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Adran Bediatrig yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'u tîm i ymgymryd â swydd tymor sefydlog 6 mis LAS ST Isaf. Bydd y swydd yn dechrau ar 5 Chwefror 2025 tan 5 Awst 2025. Ni ellir ymestyn y swydd y tu hwnt i'r dyddiad hwn ar hyn o bryd fel un sy'n cyflenwi swydd wag.

Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i ennill profiad mewn maes pediatreg tebyg i faes hyfforddeion eraill yn yr adran. Bydd y swydd yn seiliedig ar wardiau yn bennaf ond gyda chyfle i fynychu clinigau. Bydd y swydd yn cymryd rhan yn y rota ar alwad.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda'r tîm clinigol ehangach o Ymgynghorwyr, Uwch Ymarferwyr Nyrsio, Meddygon Iau a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol eraill i ddarparu gofal clinigol o ansawdd uchel, diogel ac effeithiol. Gweithio fel rhan o'r tîm amlddisgyblaethol. Rhaid i ymgeiswyr fod â chofrestriad GMC llawn gyda thrwydded i ymarfer neu ddangos tystiolaeth y bydd yn cael ei gyhoeddi cychwyn. Ni allwn noddi ymgeiswyr ar gyfer cofrestriad GMC.erbyn y dyddiad cychwyn. Ni allwn noddi ymgeiswyr ar gyfer cofrestriad GMC

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd hon wedi'i hanelu at lefel ST Isaf. Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted ag y bo modd. Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i ennill profiad mewn Pediatreg. Yn ogystal â hyn, bydd cyfrifoldebau penodol mewn perthynas â'r Uned Asesu Bediatrig, yr Adran Cleifion Allanol, cyswllt â'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ac arbenigeddau eraill. Rydym yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi a byddwn yn cefnogi cyrsiau perthnasol ar gyfer anghenion addysg a hyfforddiant yr ymgeisydd.

Er na fydd y swyddi yn cael eu cydnabod am hyfforddi, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i fynychu addysgu a chymryd rhan mewn prosiectau archwilio, gwella ansawdd ac ymchwil lle bo modd yn debyg i Hyfforddeion Deoniaeth Cymru. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd oruchwyliwr addysgol penodedig. Bydd y swyddi hyn yn cymryd rhan ar y rota meddygol ar alwad ac mae ganddynt gyfrifoldebau tebyg i'r graddau hyfforddi. Mae cyllideb absenoldeb astudio ar gael a bydd cyllid cysylltiedig yn cael ei ystyried gan y Swyddfa Cyfarwyddwr

Gweithio i'n sefydliad

Swansea Bay University Health Board has responsibility for the health of around 390,000 people in the Neath Port Talbot and Swansea areas, with a budget of around £1 billion and employing 12,500 people.ÌýÌýÌý We are a University Health Board working in partnership with Swansea University, Swansea School of Medicine, the School of Health Science and the Institute of Life Science. The HB has three major hospitals providing a range of services: Morriston and Singleton hospitals in Swansea and Neath Port Talbot hospital in Baglan, Port Talbot.Ìý

The Health Board is part of A Regional Collaboration for Health (ARCH), which is a partnership with Hywel Dda UHB and Swansea University. Aimed at improving the wellbeing and wealth of South West Wales.Ìý

Swansea is Wales' second-largest city, and sits on the five-mile sweep of Swansea Bay. An ideal base for exploring South-West Wales, there is also much on offer for visitors in Swansea itself. Swansea has a range of shops, cozy cafes, great restaurants, art galleries as well as being able to offer good outdoor lifestyle with its beautiful coastline and beaches on the Gower Peninsula. Swansea also has excellent sporting facilities including the Wales National pool and liberty stadium home to the Ospreys and Swansea City football club.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael rhagor o fanylion am y swydd hon, cliciwch ar yr adran dogfennau ategol i gael y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person. Mae’r rhain ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • Mae'n rhaid i chi feddu ar radd Baglor mewn Meddygaeth, Baglor mewn Llawfeddygaeth (BMBS, MBBS) neu gymhwyster meddygol cyfatebol arall.
  • Rhaid i chi fod â thystiolaeth o gyflawni cymwyseddau sylfaen yn y tair blynedd a hanner cyn dyddiad dechrau'r swydd a hysbysebwyd, trwy un o'r pedwar dull canlynol: • Cyflogaeth gyfredol mewn rhaglen sylfaen gysylltiedig Swyddfa Rhaglen Sylfaen y DU (UKFPO); neu • Cyflogaeth gyfredol mewn Rhaglen Hyfforddi Arbenigedd a gymeradwywyd gan GMC sy'n dal naill ai Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) neu Rif Cyfeirnod Deoniaeth (DRN); neu • Tystysgrif Cwblhau Rhaglen Sylfaen (FPCC) o raglen sylfaen gysylltiedig yn y DU; neu • 12 mis o brofiad meddygol ar ôl cofrestru GMC llawn (neu brofiad ôl - drwyddedu cyfatebol), a Thystysgrif Parodrwydd i fynd i mewn i Hyfforddiant Arbenigedd (CREST).
  • Rhaid bod gennych 24 mis (2 flynedd) neu lai o brofiad (cyfwerth ag amser llawn) mewn Pediatreg (heb gynnwys modiwlau Sylfaen) wrth wneud cais. Mae pob profiad mewn swyddi ar unrhyw lefel yn cyfrif yn yr arbenigedd hwn, ni waeth pa wlad y mae'r profiad yn cael ei ennill.

experience

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth Glinigol
  • Sgiliau gweithle
  • Gwybodaeth academaidd
  • Sgiliau personol
Meini prawf dymunol
  • • Dealltwriaeth o reolaeth ac adnoddau'r GIG.
  • • Profiad o reoli.
  • • Profiad o ymchwil.
  • • Profiad archwilio a gwella ansawdd.
  • • Profiad o addysgu.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Health ChampionsStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity Champion

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Haylee Pike
Teitl y swydd
Divisional Business Support Manager,
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Oldway Centre
SA1 5AW