果冻传媒APP

Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal Sylfaenol
Gradd
Gradd 8D
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Mae鈥檙 swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis tan 31/03/2026 cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC171-0325
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Eryldon
Tref
Caernarfon
Cyflog
拢89,491 - 拢103,203 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
19/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal Sylfaenol - Trawsffurfiad a Gwelliant

Gradd 8D

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o鈥檙 newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch 芒'n t卯m a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol 芒鈥檔 Gwerthoedd Sefydliadol a鈥檔 fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd.听Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy鈥檙 cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae鈥檙 raddfa gyflog uchod wedi鈥檌 chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi鈥檌 h么l-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo鈥檔 berthnasol.听

Trosolwg o'r swydd

Mae鈥檙 swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis tan 31/03/2026 cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Dyma gyfle cyffrous i arwain yr agenda trawsnewid strategol ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio鈥檔 agos ag uwch gydweithwyr ar draws y maes Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar lefel gorfforaethol a gweithredol. Bydd deilydd y swydd yn adrodd i鈥檙 Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol / Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Gorllewin.

Mewn partneriaeth 芒鈥檙 Cyfarwyddwr Contractio a Chomisiynu Gofal Sylfaenol, y Cyfarwyddwyr Cyswllt ar gyfer Gofal Sylfaenol a鈥檙 Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol, bydd deilydd y swydd yn cydlynu ac yn arwain agenda trawsnewid y Bwrdd Iechyd mewn ymateb i strategaethau cenedlaethol a lleol. Bydd yn sicrhau dull cydlynol at eu darparu er mwyn sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau i fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Gogledd Cymru.

听Rydym yn dymuno penodi uwch arweinydd effeithlon a threfnus gyda phrofiad sylweddol yn y maes gofal sylfaenol. Bydd ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth o weithrediad y GIG yng Nghymru a pholis茂au a blaenoriaethau strategol allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol. Bydd profiad o gynllunio strategol a darparu gofal o bob rhan o鈥檙 economi iechyd yn hanfodol a bydd angen sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol ar ddeilydd y swydd i arwain t卯m o bobl a gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檔 rhanddeiliaid.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal Sylfaenol yn gyfrifol am weithredu'r rhaglen drawsnewid a ddyrannwyd gyda gofal sylfaenol yn unol 芒 rhaglen strategol llywodraeth Cymru ar ofal sylfaenol ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Byddant yn chwarae r么l ganolog wrth siapio a darparu rhaglenni gofal iechyd cymhleth sy'n effeithio ar ansawdd gofal claf a鈥檙 broses ddarparu gwasanaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol ym mhob rhan o'n sefydliad.

Wrth ddatblygu'r rhaglen a glustnodir a'i rhoi ar waith, bydd y r么l yn gyfrifol am arwain:

  • Trawsnewid y gwasanaeth a'r cynllun gan gynnwys yn ddigidol
  • Ymgysylltu, ymgynghori a chyfathrebu
  • Dadansoddi'r gwasanaeth a datblygu achos busnes
  • Rheoli'r rhaglen
  • Rheolaeth ariannol
  • Datblygu'r Gweithlu / Adnoddau Dynol

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.听

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o鈥檙 newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch 芒'n t卯m a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol 芒鈥檔 Gwerthoedd Sefydliadol a鈥檔 fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy鈥檙 cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gweledigaeth glir ar gyfer newid a bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith, yn ogystal 芒 datblygu a meithrin cydberthnasau cadarn a chadarnhaol 芒 phartneriaid er mwyn sicrhau ymgysylltiad a dull cydgynhyrchiol er mwyn darparu'r rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys rhyngweithiadau ar lefel y system a lleoliadau er mwyn sicrhau y caiff nodau ac amcanion eu cynrychioli'n briodol.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyfarwyddo, goruchwylio a gwerthuso dyluniad a鈥檙 darpariaeth rhaglenni gwaith strategol allweddol ar draws y system eang mewn perthynas 芒 darparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol, arwain a chefnogi gyda chyfrifoldeb penodol ynghylch ymgysylltu a chyflawni'r llwybrau a'r gofal sy'n seiliedig ar werth. Bydd y rhaglenni hyn yn rhaglenni trawsnewid arloesol ac amlochrog, yn sicrhau gwelliannau parhaus yn narpariaeth ein gwasanaethau gofal sylfaenol, a byddant yn cefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i huchelgeisiau ehangach.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ddehongli polis茂au Llywodraeth Cymru mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, a digidol, ystadau, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, i ddatblygu ymatebion lleol ar y cyd 芒'n partneriaid. Wrth wneud hynny, bydd angen i ddeiliad y swydd ddefnyddio tystiolaeth a dulliau profedig (sydd ar gael iddo yn sgil gwaith ymchwil a datblygu sylweddol) sy'n dangos gwelliannau o ran diogelwch ac ansawdd. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ddeiliad y swydd wneud synnwyr o dystiolaeth a data sy'n aml yn anghyson, a dod i gytundeb ynghylch y dystiolaeth a'r data hynny, er mwyn datblygu strategaethau sy'n diwallu anghenion lleol ac yn meithrin hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ymgymryd 芒 gwaith ymchwil yn rheolaidd a datblygu, llunio a chynnal arolygon. 听Bydd gwaith ymchwil a datblygu pellach yn cynnwys adolygu data'r GIG a data Gofal Cymdeithasol fel gwybodaeth am fusnes a'r boblogaeth yng Ngogledd Cymru a thu hwnt i ddatblygu a rhoi strategaethau ar waith ar gyfer anghenion y gwasanaeth a'r boblogaeth yn benodol mewn perthynas 芒 gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd sicrhau trefniadau effeithiol a chynhwysol ar gyfer ymgysylltu 芒 staff, defnyddwyr gwasanaethau, cynrychiolwyr cleifion, gofalwyr, arweinwyr cymunedol a gwleidyddol ynghyd 芒 sefydliadau partner gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a sefydliadau eraill y GIG lle y bo'n briodol. 听Cynnal sesiynau briffio, gwneud cyflwyniadau a chyfathrebu'n ffurfiol yn ysgrifenedig a chynrychioli'r Bwrdd Iechyd mewn amrywiaeth o gyfarfodydd cyhoeddus a phreifat. Rheoli heriau'n effeithiol, mynd i'r afael ag ymatebion anffafriol a, thrwy sgiliau negodi a chyfathrebu datblygedig iawn, datblygu consensws a chefnogaeth ar gyfer modelau gofal newydd.

Bydd deiliad y swydd yn arwain rhaglenni gwaith er mwyn sicrhau y caiff canlyniadau y cytunwyd arnynt sy'n helpu'r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei amcanion strategol yn benodol mewn perthynas 芒 gwasanaethau sylfaenol a chymunedol a'i dargedau yn ystod y flwyddyn eu cyflawni'n llwyddiannus, ac i wella gwasanaethau. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwydd ar gyfer perfformiad ac ymatebion sy'n cwmpasu 听sawl adran yn y Bwrdd Iechyd ynghyd 芒 sefydliadau partner.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli swyddogaeth rheoli'r rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwydd ar gyfer rheolaeth, goruchwyliaeth a datblygiad proffesiynol staff a chyllidebau a pherfformiad yr adran.

Bydd gan ddeiliad y swydd gryn ryddid yn y swydd hon a bydd disgwyl iddo addasu i newidiadau sylweddol a sydyn yn ei lwyth gwaith.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o uwch-d卯m rheoli'r Bwrdd Iechyd a bydd disgwyl iddo gefnogi'r Cyfarwyddwr Gweithredol Arweiniol, gan ddirprwyo yn 么l yr angen. Bydd hyn yn cynnwys cynrychioli'r Cyfarwyddwr Gweithredol Arweiniol ar amrywiaeth o bwyllgorau, gweithgorau a thimau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli'r Cyfarwyddwr Gweithredol Arweiniol a'r Bwrdd Iechyd yng nghyfarfodydd cyrff allanol a phwyllgorau amlasiantaethol.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch 鈥淕wneud cais nawr鈥 i鈥檞 gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth arbenigol am systemau gofal iechyd, dadansoddi gwasanaethau, trawsnewid gwasanaethau a rheoli rhaglenni ynghyd 芒 gwybodaeth am ymgysylltu, ymgynghori a chyfathrebu a pherthnasoedd uwch (lefel Bwrdd) gyda sefydliadau partner.

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o uwch reolwyr y GIG yn ddelfrydol ar lefel Bwrdd mewn amgylchedd sector cyhoeddus gan gynnwys gwybodaeth fanwl am reolaeth ariannol, systemau gwybodaeth rheoli perfformiad a rheoli staff.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Top 100Stonewall Top 100 Employers

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ffion Johnstone
Teitl y swydd
Integrated Health Community Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]